(also available in English)

Dehongliad a chrynodeb gan Arfon Goodman-Jones o erthygl ‘Eisteddfod Caerwys 1567’ gan Enid Roberts.  Diolch i Geraint Wyn Hughes am fenthyciad o’r llyfr ‘Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych (Cyfrol 16, 1967)’.  Mae Geraint Wyn Hughes yn un o ddisgynyddion William Byrkinshaw, un o’r prif feirdd yn 1567.

Hwn oedd eisteddfod cyntaf Cymru yn te ?

  • Na, nid hwn oedd y cyntaf. Rydym yn gwybod am eisteddfodau yng nghastell Aberteifi yn 1176 ac yng Nghaerfyrddin yn 1451.

Hwn oedd eisteddfod cyntaf Caerwys ‘ta ?

  • Na, fe gynhaliwyd eisteddfod yn Nghaerwys yn 1523. Mae yna awgrym hefyd fod yna eisteddfod yng nghyffiniau Caerwys cyn 1137 ond nid oedd tystiolaeth pendant.
  • Y rheswm fod Eisteddfod 1567-68 yn cael cydnabyddiaeth yw efallai oherwydd mai hwn oedd yr eisteddfod cyntaf gyda cydnabyddiaeth a chaniatâd y llywodraeth Seisnig a’r teulu brenhinol – os ydi hyna’n bwysig ?

Beth oedd y ‘sbardyn tu ôl i’r Eisteddfod ?

  • Roedd beirdd yn crwydro’r wlad ac yn cael eu talu am y grefft, fel arfer gan y teuluoedd mwyaf cefnog e.e. mewn llysoedd, plasdai a thai mwyaf moethus ardaloedd Cymru.
  • Roedd yna dyfiant sylweddol yn y nifer o feirdd, neu o leiaf rhai a honnai eu bod yn feirdd, ac felly roedd angen rhyw fodd o raddio y beirdd a sicrhau nad oedd y rhai anghymwys yn cael rhyddid i grwydro a pherfformio yn llysoedd y wlad.

Pam oedd Elizabeth I am ymyryd a dylanwadu ar feirdd a cherddorion Cymru ?

  • Yn debyg i’n cyfryngau heddiw, roedd beirdd yn lledaenu newyddion o un ardal i’r llall. Tra roedd ganddynt y gallu y gyfleu y ffeithiau roeddynt hefyd yn gyfrifol am y dehongliad ac wrth gwrs mae barn y bardd yn cael ei gyfleu yn y gerdd.
  • Gyda beirdd ymhlith y mwyaf Cymreig eu hagwedd maen debyg eu bod o dro i dro yn cyfleu mwy o safbwynt y Cymry na’r Saeson tra’n dehongli unrhyw ddigwyddiad neu bwnc llosg.
  • Er mwyn cael ryw fath o reolaeth roedd y teulu brenhinol a’u cynghorion yn awyddus i wahanu y gwir feirdd o’r rhai israddol gyda’r gobaith y buasai hyn yn lleihau unrhyw bropoganda wrth Seisnig
  • Mae’n debyg fod rhai o’r uchelwyr lleol wedi cynnig cael eisteddfod i safoni y beirdd ac wedi gofyn am ganiatâd a bendith y frenhines
  • Fel gafwyd yn caniatâd swyddogol yn Hydref 1567 (ond tybed oedd hwn wedi cael ei ddileu am sawl mis yn hirach nac y disgwyliwyd ?)

Cystadleuaethau fel Eisteddfodau heddiw oedd o ?

  • Mae’n debyg fod yr Eisteddfod yn fwy o broses beirniadu a graddio gyda seremoni swyddogol i’r graddedigion. Mae rhestri o feirdd a gafodd eu dyrchafu, wedi eu cofnodi. Efallai bod llai o sefyll a pherfformio a mwy o Eistedd i fod ? 😉

Pam y cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Nghaerwys ?

  • Traddodiad: Sylfaenwyd statud gan Gruffudd ap Cynan (~ 1137) oedd yn cynnwys holl reolau urdd y beirdd a’r cerddorion a’r gyfundrefn farddol. Credir fod gwraig Gruffudd ap Cynan yn dod o blwy Caerwys. Er nad does tystiolaeth cryf mae’n bosib fod Gruffudd ap Cynan wedi cynnal eisteddfod yng Nghaerwys, o fewn talaith Aberffro i gyhoeddi y statud. Hefyd fe gyhoeddwyd fersiwn mwy diweddar o’r statud, sef y “Conffyrmiad” yn Eisteddfod Caerwys 1523.
  • Pwysigrwydd: Siartr Bwrdeistref Caerwys 1290 (Edward I), Siartr 1408 (Harri IV), er nad Caerwys oedd y brif dref mae’n debygol mae hon oedd yr unig dref farchnad yn y sir.
  • Cymreictod: Yn wahanol i fwrdeistrefi eraill megis Y Fflint, Rhuddlan, Dinbych, Conwy, Caernarfon – ni chodwyd castell, ni sefydlwyd gariswn o filwyr a ni phlannwyd minteioedd o Saeson i redeg y dref. Arhosodd Caerwys yn Gymraeg yn nwylo brodorion a swyddogion o deuluoedd uchelwrol yr ardal. Wrth gasglu tyrfa o feirdd a cherddorion i Gaerwys, yn hytrach na threfi eraill, roedd modd osgoi y perygl o wrthdaro rhyngddynt a’r Saeson. Hefyd yr ardal hon oedd cadernid diwylliant llenyddol Cymru yn yr 16eg ganrif.
  • Y teulu Mostyn: Mae’n amlwg mai teulu Mostyn, o dan arweiniad y penteulu oedd yn trefnu a rheoli’r ddwy eisteddfod.
    • 1523: Y prif enwau ar y ‘Rhôl’ yn 1523 oedd Rhisiart ap Hywel (Penteulu Mostyn), Syr William Gruffudd (ei ferch Sian yn briod i Thomas Mostyn – mab Rh.ap.H) , Syr Rhosier Salsbri (nai i Catrin Salsbri, sef gwraig Rh.ap.H), Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (gwr i ferch Rh.ap.H, Sioned) a.y.y.b
    • 1567: Roedd deuddeg gwr yn beirniadu’r beirdd a’r cantorion yn cynnwys William Mostyn, y penteulu erbyn hynny ac yn wŷr i Rhisiart ap Hywel. Ar wahân i un dyn, Elis Prys PhD, roedd yr 11 arall yn perthyn yn uniongyrchol neu drwy briodas i William Mostyn yn cynnwys teulu uchelwyr Coed-y-Mynydd (ger Moel y Parc heddiw)
    • Mae’n debyg fod y teulu Mostyn wedi mabwysiadu, neu wedi derbyn yr hawl swyddogol, i reoli beirdd a cherddorion, fel y gwnaeth eu cymdogion y teulu Dutton hefo ‘minstrels’ yng Nghaer.
    • Roedd y teulu Mostyn yn berchnogion ar ‘half a burage with a building standing thereon’ yng nghanol Caerwys ers 1506. Mae’n debyg mai yn yr adeilad ac ar y tir yma y cynhaliwyd yr eisteddfod.

Pryd y cynhaliwyd yr Eisteddfod, 1567 neu 1568 ?

  • Buasai angen tudalennau maith i drafod y pwnc yma. Ond y canlynol yw fy marn i wedi darllen a chysidro’r ffeithiau:
  • 1568? – Yr unig reswm i gredu hyn ydi COPI o’r Proclamasiwn oddiwrth Elizabeth I:
    • Wedi ei arwyddo ar Hydref 23 yn 1567
    • Ond yn dweud fod rhaid rhoi ‘a yeares warning at the least’
    • Ac i’w chynnal ‘the monday next after the feast of the blessed Trynitee in the year of our Lorde god 1568’
    • Ond mae anghysondeb clir rhwng blwyddyn o rybudd ac wedyn ei gynnal o fewn 8-9 mis
    • Mae copi o’r proclamasiwn yn cyfarch 21 o uchelwyr Gogledd Cymru – ond ym mhob tystiolaeth arall cyfeirir at, a rhestrir, 12 yn unig o enwau ?
    • 1567? – Mae nifer o ffynonellau yn cytuno ar 67:
    • Mae dau o’r cerddi gwreiddiol yn cyfeirio at y flwyddyn ’67 (e.e. “…A thrigain a saith rhagor” – Huw Pennant)
    • Roedd copi o drwydded pencerdd Simwnt Fychan yn cofnodi “mil a hanner a saith a thrugain”
    • Yn ôl sawl llawysgrif ar Fai 26 yn cynhaliwyd yr eisteddfod. Roedd hefyd cyfeiriadau at y Dydd Llun cyntaf ar ôl Gŵyl y Drindod. Gŵyl sydd yn symud yn flynyddol – yn ’67 roedd hwn yn disgyn ar Fai 26 ond yn ’68 roedd hwn yn disgyn ar Mehefin 14.
  • Erbyn 1886 roedd nodiadau hanesyddol amheus wedi cam-ysgrifennu enw Huw Ceiriog fel Huw Eurorog ar un nodiadau wedi newid yr englyn gyda’r flwyddyn berthnasol i “…A thrigain a wyth rhagor”. Mae’n ymddangos fod rhywrai wedi ceisio addasu y gwir.
  • Wedi darllen y manylion rwyf i, yn bersonol, yn sicr mai yn 1567 y cynhaliwyd yr eisteddfod. Mae’n bosib fod camgymeriadau ar gopi o’r Proclamasiwn ac haws gennyf gredu y ddamcaniaeth canlynol…
    • Mae’n byr debyg fod y trefnwyr, y deuddeg uchelwr, wedi ysgrifennu, efallai yn ystod 1566, a gofyn i’r llywodraeth a’r frenhines am ganiatâd i gynnal yr eisteddfod.
    • Wedi disgwyl am gyfnod heb ateb, tybiaf eu bod wedi penderfynu cynnal yr eisteddfod yn ôl y traddodiad at y dydd Llun cyntaf ar ôl Gŵyl y Drindod, sef Mai 26, 1967. Buasai bod yn ragweithiol, a rhoi trefn a’r y beirdd a’r cerddorion, yn sicr o blesio’r teulu brenhinol.
    • Dipyn o embaras wedyn fuasai cael yr ymateb a’r caniatâd ffurfiol yn Hydref 1567 – pum mis ar ôl y digwyddiad! Gwell efallai i gadw’n ddistaw ac lle bod cyfle addasu yr hanes ysgrifenedig i gyfateb a’r Proclamasiwn?
Cwestiynau Cyson – Eisteddfod Caerwys 1567-68